Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cyllid


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Iau, 9 Mai 2019

Amser: 09.21 - 11.52
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
5540


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Llyr Gruffydd AC (Cadeirydd)

Rhun ap Iorwerth AC

Mike Hedges AC

Rhianon Passmore AC

Nick Ramsay AC

Tystion:

Julie Morgan AC, Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Karen Cornish, Llywodraeth Cymru

Sarah Canning, Llywodraeth Cymru

Howel Jones, Local Partnerships

Rosie Pearson, Local Partnerships

David Ward, Tirion Group

Staff y Pwyllgor:

Bethan Davies (Clerc)

Leanne Hatcher (Ail Glerc)

Ryan Bishop (Dirprwy Glerc)

Christian Tipples (Ymchwilydd)

Owen Holzinger (Ymchwilydd)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

 

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Davies AC a Neil Hamilton AC.

</AI1>

<AI2>

2       Papur(au) i'w nodi

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

</AI2>

<AI3>

2.1   PTN1 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd - Cyllidebau atodol 2019-20 - 30 Ebrill 2019.

</AI3>

<AI4>

2.2   PTN2 - Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit - Bil Deddfwriaeth (Cymru) - Ymateb y Llywodraeth i adroddiad y Pwyllgor - 3 Mai 2019

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit mewn ymateb i'w lythyr.

</AI4>

<AI5>

3       Y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru): sesiwn dystiolaeth

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Julie Morgan AC, Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; Karen Cornish, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Plant a Theuluoedd; a Sarah Canning, Pennaeth y Gangen Deddfwriaeth, Ymchwil a Rhianta, ar oblygiadau ariannol y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Rhesymol) (Cymru).

 

3.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth ar sut yr amcangyfrifwyd nifer yr achosion o gosb resymol a adroddwyd i'r heddlu a sut y mae hyn yn gysylltiedig â nifer yr erlyniadau yng Nghymru bob blwyddyn.

</AI5>

<AI6>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitemau 5, 7-9 ac ar gyfer dechrau'r cyfarfod ar 15 Mai 2019

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

</AI6>

<AI7>

5       Y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru): trafod y dystiolaeth

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

</AI7>

<AI8>

6       Ymchwiliad i ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru: Sesiwn dystiolaeth 3

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan David Ward, Prif Weithredwr, Grŵp Tirion; Howel Jones, Cyfarwyddwr Corfforaethol, Rhaglenni a Phrosiectau, Partneriaethau Lleol; a Rosie Pearson, Cyfarwyddwr Corfforaethol Datblygu Busnes, a Chyfarwyddwr Rhaglen PPP a PFI, Partneriaethau Lleol, ar ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru.

</AI8>

<AI9>

7       Ymchwiliad i ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru: trafod y dystiolaeth

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

</AI9>

<AI10>

8       Taliadau cadw yn y diwydiant adeiladu

8.1 Trafododd y Pwyllgor y papur a chytunodd i ysgrifennu at Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.

</AI10>

<AI11>

9       Comisiwn y Cynulliad - Diweddariad ar y Cynllun Ymadael Gwirfoddol a Llacio Cap y Sefydliad

9.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gomisiwn y Cynulliad ynghylch y diweddariad ar y cynllun ymadael gwirfoddol a llacio cap y sefydliad.

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>